Natur
Mae’r afon Prysor yn bwydo i lyn Trawsfynydd, drwy argae Maentwrog ar yr ochr chwith, gan deithio i Geunant Llenyrch at yr afon Dwyryd cyn ymuno â’r mor ym Mhorthmadog. Cyn adeiladu'r llyn roedd yr afon yn rhedeg drwy fawndir mawr 'Gors Goch' . Roedd yn olygfa gyffredin i weld pobl yn cerdded i’r gors gyda chawellau ar eu cefnau i gasglu mawn i wneud tân.
Mawndiroedd
Math o bridd yw mawn, sy’n gymysgedd o lystyfiant wedi rhannol-bydru mewn amgylchedd anaerobig. Mae mawndiroedd yn wlyb iawn, ac maent yn ffynnu yn yr ardal hon.
Drwy storio carbon mae’r mawn yn helpu i liniaru newid hinsawdd. Mae’n bwysig iawn o ran ei ecoleg, oherwydd ei allu naturiol i hidlo dŵr, ac i storio dŵr mewn amodau tywydd eithafol megis glaw trwm a chyfnodau sych.
Yn 4,000 B.C. roedd yr ardal hon yn un goedwig fawr hynafol.
Coedwigaeth
Mae’r coedlannau derw o amgylch Trawsfynydd yn cefnogi amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys mwsoglau, llysiau’r afu a chennau prin yn ogystal ag adar nythu ac amryw o wahanol famaliaid megis yr ystlum pedol lleiaf.
Mae Coedlannau Derw yr Iwerydd yn bwysig iawn ac yn unigryw i arfordir gorllewinol Prydain, ac yn mynnu ar hinsawdd llaith a thymherus. Ar ôl oes yr ia diwethaf, roedd y fro hon, fel rhan helaeth o Brydain, wedi ei gorchuddio â choedlannau collddail. Dros y canrifoedd, cafodd llawer eu torri ar gyfer defnydd amaethyddol neu oherwydd gwerth y coed fel adnodd adeiladu a tanwydd. Oherwydd hyn nid yw’r rhan fwyaf o’r coed a welir yma’n hŷn na 150 mlwydd oed.
Yn ystod yr 20fed Ganrif plannwyd coedwig bytholwyrdd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar lawer o diroedd ffermio. Bu i lawer o’r bobl a oedd yn byw a gweithio ar ffermydd y tir ailgartrefu, gan ennill eu bywoliaeth drwy waith coedwigaeth.
Ceir rhagor o wybodaeth am fywyd gwyllt yn Llyn Trawsfynydd yma: Bywyd Gwyllt