Menu
Cyfleusterau
Mae’r cyfleusterau yn Llyn Trawsfynydd wedi cael eu hadnewyddu gan Gymdeithas Pysgota Prysor drwy brosiect Canolfan Rhagoriaeth Eryri, er mwyn sicrhau bod pobl leol ac ymwelwyr oll yn gallu manteisio ar gyfleusterau o’r radd flaenaf.
Mae Canolfan Llyn Trawsfynydd nawr ar agor. Oriau agor arferol yw 8yb tan 4yh. Ar hyn o bryd mae Canolfan Prysor dal yn datblygu'r Ganolfan ac ar hyn o bryd maent yn gallu cynnig yr isod:
- Caffi gyda golygfeydd bendigedig o’r llyn
- 2 Ystafell Gyfarfod / Cynadleddau i`w rhentu
- Toiledau a Chawodydd
- 2 Swyddfa
- Hurio Beic
- Glanfa newydd gyda 40 o gychod pysgota i’w llogi
- Llwybr beicio / cerdded ar hyd y llyn
- Maes parcio