Hanes
Mae Llyn Trawsfynydd wedi ei leoli o fewn ardal naturiol o harddwch yng nghanol Eryri yn agos at briffordd yr A470 a threfi gwyliau Porthmadog a Dolgellau.
Mae gan y llyn arwynebedd o oddeutu 1200 acer sydd yn ymestyn am hyd o 5 milltir. Mae gan y llyn nifer dda o Frithyll Brown naturiol a chaiff ei stocio’n rheolaidd gan Frithyll yr Enfys o ansawdd da. Hefyd mae yno nifer o bysgod bras yn y llyn, sef Draenogiaid yn bennaf, yn ogystal â Rhuddbysgod a Phenhwyaid. I’r gwylwyr adar mae yno nifer o wahanol adar yn byw ar hyd glannau ac ynysoedd y llyn, gyda gweilch y pysgod yn ymweld yn achlysurol.
Ym 1922 adeiladwyd yr argae gyntaf i ddal dŵr ar gyfer pwerdy hydro-electrig Maentwrog. Pan agorwyd y pwerdy yn 1928 hwn oedd pwerdy mwyaf y DU.
Codwyd yr argae ar gyfer y Pwerdy Niwclear Trawsfynydd ar ddechrau’r 1960au, gan ddefnyddio’r dŵr ychwanegol i bwrpas oeri. Yn 1990 fe gaewyd y pwerdy a dechreuodd y dadgomisiynu. Yn gyflym iawn gostyngodd tymheredd y dŵr yn ôl i’w dymheredd naturiol a dychwelyd hefyd wnaeth y bywyd pryfetach tymhorol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r nifer o bryfed yn y llyn a’r nifer yn deor wedi cynyddu.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â safleoedd hanesyddol yn ardal Trawsfynydd, dilynwch y dolenni isod: