Yr Ysgwrn
Daeth Yr Ysgwrn, ffermdy o’r 18fed Ganrif, yn Nhrawsfynydd, i enwogrwydd rhyngwladol yn 1917, fel cartref y Prifardd Hedd Wyn. Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans, y bugail o fardd a ymunodd â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar droad 1917, ac a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf brwydr enwog Passchendaele, ar 31 Orffennaf, 1917.
Daeth gwir drasiedi’r sefyllfa’n amlwg chwech wythnos yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1917, pan gyhoeddwyd mai Hedd Wyn oedd enillydd cadair yr Eisteddfod. Gorchuddiwyd y gadair â mantell ddu ac mae wedi cael ei hadnabod fyth ers hynny fel y Gadair Ddu. Cadwyd y Gadair yn Yr Ysgwrn ers hynny a bydd miloedd o ymwelwyr yn cyrchu i’r Ysgwrn yn flynyddol i’w gweld.
Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, wedi prynu’r Ysgwrn ar gyfer y genedl. Ar drothwy canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn, bwriad yr Awdurdod dros y pedair blynedd nesaf, yw datblygu’r Ysgwrn yn safle treftadaeth cenedlaethol, gan barhau â’r traddodiad o gadw drws Yr Ysgwrn yn agored.
Am ragor o wybodaeth am Hedd Wyn a’r Ysgwrn, ewch i: