Pysgota
Ffurfiwyd Cymdeithas Bysgota Prysor ar 2 Mehefin 1898 er budd pysgotwyr lleol oedd yn pysgota ar yr Afon Prysor. Mae’r clwb wedi ffynnu ers hynny.
Caiff y llyn ei reoli gan Bwyllgor Rheoli Llyn Pysgota Prysor, sy’n is-grŵp i’r brif Gymdeithas Bysgota. Mae pob un o aelodau’r pwyllgor uchod yn wirfoddolwyr. Ni cheir cymorth gan unrhyw gorff allanol neu gorff rheoli dŵr i redeg y llyn, yn wahanol i fwyafrif y cronfeydd mawr eraill.
Oherwydd y pwysau gan bysgota, gwelwyd dirywiad yn niferoedd y brithyll brown a phenderfynodd Cymdeithas Bysgota Prysor ychwanegu at y pysgod naturiol gyda stoc o frithyll seithliw. Mae’r pysgod hyn wedi addasu’n dda i’w cynefin newydd, ac mae eu cyfradd oroesi dros y gaeaf yn rhagorol.
Mae gan Lyn Trawsfynydd enw da am ei chwaraeon ar wyneb y dŵr, ynghyd â’i bysgod gwydn o ansawdd da. Mae brithyll brown naturiol, yn pwyso tua 1 pwys ar gyfartaledd, ond serch hyn mae ambell bysgotwr wedi dal rhai sy’n pwyso mwy na 7 pwys. Mae’r pysgod yn claddu eu hwyau yn rhannau uchaf Afon Prysor.
Mae’r brithyll seithliw yn cael eu stocio’n rheolaidd drwy gydol y tymor, a’r pwysau cyfartalog yw 1.10 i 1.12 pwys, a chaiff ychydig o bysgod mwy eu cyflwyno hefyd. Caiff pysgod sy’n pwyso rhwng 4 ac 8 pwys eu dal yn rheolaidd. Mae amryw wedi dal dau bysgodyn ar yr un pryd dros y blynyddoedd, a’r record hyd yma ar gyfer y bysgodfa yw pwysau o 17.12 pwys.
Mae criw o ddraenogiaid (perch) yn y llyn ynghyd â dyrnaid o ruddbysgod a rhai penhwyaid mawr. Yn 1992 cafodd Cerpyn y Gwair oedd yn pwyso 42 pwys ei ladd - cafodd ei daro gan bropelor - roedd y pysgodyn hwn wedi bod yn y llyn am o leiaf 13 mlynedd ar ôl i griw ohonynt ddianc o gawell a gedwid gan y CEGB er dibenion arbrofol yn yr 80au. Er hyn, ni welwyd Cerpyn y Gwair ers 1992.
Mae Llyn Trawsfynydd yn llyn aml-ddull, lle mae ardaloedd eang ar gael i bysgotwyr ar y lan ddefnyddio abwyd neu blu. Mae nifer o fannau ar y lan wedi eu neilltuo ar gyfer pysgota plu yn unig. Mae’r tymor yn cychwyn ar Chwefror 1 ac yn parhau tan Rhagfyr 31 – mae’r brithyll seithliw ar gael drwy gydol y cyfnod, a’r brithyll brown dim ond yn ystod eu tymor, sef mis Ebrill tan ddiwedd mis Medi.
Mae fflyd o 40 o gychod gyda moduron allanol ar gael ar gyfer pysgota plu yn unig, ac nid oes unrhyw ardaloedd gwaharddedig. Mae angen bod yn ofalus oherwydd bod darnau o greigiau yn ymestyn allan o dan yr wyneb, all fod yn syndod i bysgotwyr nad ydynt yn gyfarwydd â’r lle, yn enwedig pan nad yw’r llyn yn llawn. Mae’r rhan fwyaf o’r creigiau peryglus wedi’u marcio â phinnau metel. Mae’r silffoedd creigiog hyn yn fannau da am bysgod.
Gan mai 12 troedfedd yw dyfnder y llyn ar gyfartaledd, yn gyffredinol nid oes llawer o angen am bysgota gyda lein sy’n suddo’n gyflym, ac er na ddylid ei anghofio’n llwyr, mae’r rhan fwyaf o bysgota’n cael ei wneud ar wyneb y dŵr gan ddefnyddio leiniau sy’n arnofio neu leiniau canolraddol.
Caiff amryw o ddulliau eu defnyddio i ddenu’r pysgod: yn bennaf abwyd bychain, pluen flewog, buzzers ac abwyd sych, er bod yn well gan rai abwyd mwy – ond mae hyn oll yn dibynnu ar hoffter personol ac adeg y tymor a pha bryd mae’r pysgod yn claddu eu hwyau.
Am ragor o wybodaeth ynglyn ar pysgota yn Llyn Traws cysylltwch a 01766 540313 neu fisher@traws.com
Prisiau Pysgota - cliciwch yma >
I bysgotwyr sy’n dod â’u teuluoedd gyda hwy, mae yna nifer o weithgareddau yn y cyffiniau, nifer o draethau, cestyll, chwareli llechi ac atyniadau eraill. Mae’r Ganolfan Groeso agosaf wedi’i lleoli yn Nolgellau. Gallwch gysylltu â’r Ganolfan drwy ffonio 01341 42288 neu drwy anfon e-bost at tic.dolgellau@eryri-npa.gov.uk