English
Cymraeg
English : Wildlife
Hafan
Gweithgareddau
Natur
Hanes
Ardal Fenter
Cyfleusterau
Newyddion
Digwyddiadau
Lleoliad
Cysylltwch a ni
Bywyd Gwyllt
Yn y Llyn
Brithyll Brown Naturiol:
(Brown Trout)
Mae’r brithyll brown yn bodoli’n naturiol yn Llyn Trawsfynydd; pan foddwyd y cwm i greu’r llyn cafodd pysgod oedd yn byw yn y nentydd a’r llednentydd gartref newydd yn y llyn. Mae’r brithyll yma’n defnyddio nentydd fel Afon Prysor a Nant Islyn i silio ynddynt. Prif fwyd y brithyll brown yw pryfetach ond maent hefyd yn bwyta pysgod bach, mwydod, cynrhon a malwod dŵr. Mae’r rhan fwyaf o’r brithyll yma yn cael eu dychwelyd i’r dŵr ar ôl eu dal gan bysgotwyr. Mae nifer o frithyll brown mawr wedi’u dal yn y llyn yn ddiweddar, gyda’r mwyaf dros 9 pwys.
Brithyll yr Enfys:
(Rainbow Trout)
Brodor o ogledd America yw brithyll yr enfys sydd wedi cael ei ddefnyddio i stocio nifer fawr o ddyfroedd ar draws y byd at ddibenion pysgota, gan ei fod yn tyfu dipyn cynt na’r brithyll brodorol. Pysgod di ryw yw’r rheiny sy’n cael eu stocio yn Llyn Trawsfynydd fel na allant amharu ar eneteg y pysgod cynhenid. Mae pysgod di ryw hefyd yn tyfu’n gynt. Mae’r pysgod yn cael eu magu yn y llyn a’u rhyddhau i’w dal gan bysgotwyr. Deiet tebyg i frithyll brown sydd gan y rhain. Mae pysgod Trawsfynydd yn ymladdwyr cryf ac yn tyfu’n gyflym oherwydd fod cymaint o fwyd da yn y llyn.
Draenogiaid:
(Perch)
Mae’r draenogiaid wedi bod yn y llyn ers iddo gael ei greu. Tra’r oedd y pwerdy yn gweithio, roedd y dŵr cynnes yn hybu cyfradd twf a niferoedd y pysgod, a byddai cannoedd ohonynt yn cael eu dal. Er nad ydynt mor niferus erbyn hyn, gwelir ambell haig ohonynt ac mae ambell bysgodyn mawr yn parhau i gael ei ddal. Silio ar lysdyfiant yn y llyn mae’r rhain.
Ruddbysgod:
(Rudd)
Mae’n siŵr i’r rywogaeth yma fod yn naturiol yn y llyn ers ei sefydlu hefyd. Bu rhain hefyd yn niferus iawn ar un adeg, ond mae diffyg llysdyfiant yn y llyn a’r ffaith fod pob un o’r rhywogaethau eraill yn eu bwyta yn golygu mai prin yw’r rhain bellach. Bwydo ar bryfaid bach mae rhain gan fwyaf, a maent yn silio mewn llysdyfiant.
Penhwyaid:
(Pike)
Does dim sicrwydd o ble ddaeth y penhwyad i Lyn Trawsfynydd, cred rhai iddynt fod yno ers y dechrau a bod y dŵr cynnes yn y gorffennol wedi atal eu twf. Mae eraill yn credu iddynt gael ei rhoi yn y llyn ar bwrpas; gall wyau pysgod hefyd gael eu cario yn hawdd gan adar a chan bod llynnoedd eraill yn yr ardal yn cynnwys y rhywogaeth yma, mae’n ddigon posib mai dyma ddigwyddodd. Heliwr yw’r penhwyad a gall fwydo ar bysgod, brogaod, adar dŵr a hyd yn oed llygod dŵr. Silio mewn llystyfiant mae’r penhwyad. Gall y penhwyad dyfu’n fawr iawn ac mae pysgod dros 30 pwys wedi eu dal yn Nhrawsfynydd. Anogir pysgotwyr i ddychwelyd y penhwyad ar ôl eu dal gan fod iddynt rôl bwysig yn bwyta pysgod sy’n sâl neu wedi eu hanafu, a chan fod penhwyad mawr yn bwyta penhwyad bach fe gedwir y cydbwysedd yn yr ecosystem.
O Amgylch y Llyn
Dyfrgwn:
Gall y creaduriaid carismatig hyn deithio hyd at 25 milltir er mwyn chwilio am fwyd, sef pysgod yn bennaf ond hefyd anifeiliaid eraill megis llyffantod, adar bach a hyd yn oed mamaliaid eraill.
Tybed allwch chi ddarganfod olion traed dyfrgwn wrth i chi gerdded o amgylch y llyn?
Gweilch y Pysgod:
Er nad oedd cofnod i weilch y pysgod nythu yng Nghymru tan yr 21ain ganrif, credwn eu bod nhw wedi bodoli yn y rhan yma o’r byd ers canrifoedd. Ar yr Afon Glaslyn y mae’r teulu lleol yn nythu, ond byddent yn gaeafau yn yr Affrig oherwydd amodau anffafriol ein gaeafau Prydeinig. Maent yn hedfan hyd at 10 filltir o’u nyth i hela yn ystod y tymor nythu. Yn aml iawn gallwch eu gweld yn hela ar Llyn Trawsfynydd a’r afonydd cyfagos lle maent yn bwydo ar amryw o wahanol bysgod. Cofiwch gadw llygad allan amdanynt yn bwydo o amgylch y llyn rhwng mis Ebrill a mis Medi!
Newyddion Diweddaraf
Mae'n ddrwg gennym nad oes unrhyw erthyglau newyddion i'w dangos ar hyn o bryd
Digwyddiadau Diweddaraf
Cysylltwch a ni
blah d blah
Yn gweithio mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Pysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.