English
Cymraeg
English : Cycling
Hafan
Gweithgareddau
Natur
Hanes
Ardal Fenter
Cyfleusterau
Newyddion
Digwyddiadau
Lleoliad
Cysylltwch a ni
Beicio
Dewch draw i Drawsfynydd am brofiad beicio arbennig o amgylch ein llyn godidog!
Mae Cyngor Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu ar cynllun ERDF Ewropeaidd gwerth £405,000 i osod llwybr beicio o amgylch y llyn yn yr ardal a cafodd ei agor yn swyddogol ar y 16eg o Fehefin.
Ynghyd â’r cyfleusterau beicio sydd ar gael ym Mlaenau Ffestiniog a Choed y Brenin mae'r gylchdaith hon o amgylch y llyn yn ychwanegu at y cyfleoedd beicio sydd ar gael yn yr ardal. Mae'r gylchdaith yn mesur 8 milltir.
Mae posib dechrau’r gylchdaith o unai Trawsfynydd ei hun, neu yn Ganolfan y Llyn. Fel rydych yn mynd o amgylch y llwybr fe gewch gyfle i weld golygfeydd o’r llyn ei hun ar natur bendigedig o amgylch yr ardal.
Mae un darn serth ar y llwybr sydd yn mynd ymlaen am 400medr ar ôl oddeutu 600medr oddi wrth y brîf argae. Mae’n dipyn o sialens i reidwyr di brofiad, ac rydym yn argymell i ddod oddi ar y beic a’i wthio os ydych yn cychwyn ‘strugglo’ wrth ddringo. Ond mae gwerth aruthrol i gario mlaen mynd i chi cael gweld y golygfeydd anhygoel sydd yno!!!
Mae posib lawrlwytho map o'r llyn isod:
Map Llwybr Llyn Traws
Mae rhaid cofio wrth basio'r Pwerdy am y brif argae nid oes angen dilyn llwybr beicio cenedlaethol 82 lawr am Gellilydan i fynd o amgylch y llyn.
Mae angen parhau mynd yn syth!
Mae'n bosib i hurio beiciau o'r Ganolfan, am fwy o wybodaeth dilynwch y link isod:
Hurio Beics
Newyddion Diweddaraf
Mae'n ddrwg gennym nad oes unrhyw erthyglau newyddion i'w dangos ar hyn o bryd
Digwyddiadau Diweddaraf
Cysylltwch a ni
blah d blah
Yn gweithio mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Pysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.