Ymunwch a ni am un Antur Fawr
Mae Pysgotfa Prysor, Llyn Trawsfynydd yn un o bedwar safle prosiect Canolfan Rhagoriaeth Eryri. Mae’r prosiect Ewropeaidd yma, sydd wedi mabwysiadu’r brand Eryri, Un Antur Fawr, yn ei bedwaredd flwyddyn ac mae nifer o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd ar y pedwar safle twristiaeth gynaliadwy sy’n rhan o’r cynllun. Mae’r canolfannau gweithgareddau awyr agored yma yn arddangos y gorau gall yr ardal ei gynnig, ac yn dangos fod Eryri yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau awyr agored yng Nghymru.
Coed y Brenin
Ers blynyddoedd bellach, mae pobl wedi bod yn teithio i’r ardal yn unswydd er mwyn gallu mwynhau llwybrau beicio mynydd byd-enwog Coed y Brenin. Mae agoriad y llwybr ‘Minor Taur’ graddfa las wedi sicrhau fod ystod eang o alluoedd beicio yn medru mwynhau’r safle. Erbyn hyn, y llwybr yma yw’r llwybr mwyaf poblogaidd ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru.
Mae ardal sgiliau bellach wedi agor ac mae’n werth ei gweld. Mae’r ardal hon yn caniatáu i feicwyr asesu eu hunain er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd ar y llwybrau anghywir. Hefyd, mae gan Coed y Brenin siop anrhegion ac estyniad sylweddol i’r Ganolfan Ymwelwyr sy’n darparu gofod mawr, aml-bwrpas ar gyfer cynnal pob math o ddigwyddiadau, o gynadleddau i briodasau.
I gael rhagor o wybodaeth am Goed y Brenin ewch i www.forestry.gov.uk/coedybrenin neu ffoniwch 01341 440747.
Antur Stiniog
Mae llwybrau beicio lawr-allt cyntaf Blaenau Ffestiniog wedi cael eu datblygu ac yn prysur ddod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr ardal gyda dros 8000 o feicwyr dewr wedi mwynhau’r llwybrau a’r safle neidio ers mis Mehefin 2012. A bellach, gyda Chanolfan Ymwelwyr Newydd gyda chawodydd, lle bwyta a theras to, mae’n hawdd treulio diwrnod cyfan yn Antur Stiniog.
Mae Antur Stiniog wedi cael ei ddewis i gynnal pencampwriaeth Brydeinig lawr-allt 2014 a fydd hefyd yn lansiad swyddogol i’r ganolfan. Bydd llwybr traws-gwlad o amgylch Llyn Tanygrisiau ar agor erbyn diwedd 2013 ac mae Antur Stiniog yn gobeithio adeiladu llwybr uniongyrchol o’r ganolfan i dref Blaenau Ffestiniog.
I ddysgu mwy neu i drefnu’ch ymweliad, ewch i www.anturstiniog.com neu ffoniwch 01766 238 007.
Glan Llyn
Mae Glan-llyn yn adnabyddus i bobl ledled Cymru fel canolfan antur yr oeddent yn ymweld â hi fel plant, ond, mae Glan-llyn bellach wedi ehangu i gynnig gweithgareddau amrywiol i deuluoedd a grwpiau o oedolion eu mwynhau, sy’n amrywio o geufadu i ddringo. Mae adeiladu llety newydd, sy’n cysgu 28 person ychwanegol, creu cegin, caban bwyta a chyfleusterau cynadledda newydd wedi sicrhau bod Glan-llyn yn brysurach nag erioed.
Mae Glan-llyn bellach wedi derbyn hawl cynllunio er mwyn creu llwybr cerdded a beicio ar lan Llyn Tegid, gan sicrhau fod hon yn ganolfan awyr agored sydd wirioneddol yn medru cynnig y cwbl.
Ewch i www.urdd.org/glan-llyn i weld beth sydd gan Glan Llyn i gynnig neu ffoniwch 01678 541000.
Cymdeithas Pysgota Prysor
Mae nifer o gynlluniau mawr ar gyfer Llyn Trawsfynydd. Nid yn unig fydd y cyn-glwb cymdeithasol yn dod yn ganolfan ymwelwyr, caffi a hwb i weithgareddau ar y llyn ond mae pontŵn newydd a storfa cychod wedi cael eu hadeiladu, gan wella’r cyfleusterau a mynediad i un o lynnoedd prydferthaf gogledd Cymru.
Gyda’i gilydd mae’r pedwar canolfan yn creu Canolfan Rhagoriaeth Eryri. Mae’r prosiect wedi cynorthwyo i dalu am ddatblygu'r canolfannau awyr-agored er mwyn creu’r llefydd arbennig y medrwch ymweld a hwy a’u mwynhau heddiw.
Yn gweithio mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Pysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.